Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Heddwch a Chymod |
Dyddiad y cyfarfod: |
20 Mawrth 2023 |
Lleoliad: |
Zoom
|
Enw: |
Enw: |
Mabon ap Gwynfor AS (Cadeirydd)
|
Mererid Hopwood (Ysgrifenyddiaeth) |
Hayley Richards |
Jill Evans
|
Jane Harries |
Awel Irene
|
Sion Edwards (cyfieithydd y Senedd) |
Gethin Rhys
|
Gwyn Williams |
Peter Fox AS
|
Jeff Beatty
|
Ioan Bellin |
Sam Swash (swyddfa Carolyn Thomas AS)
|
Ryland Doyle (swyddfa Mike Hedges AS) |
Gwilym
|
Peter Cutts |
Darren Millar AS
|
Sioned Williams AS |
Brian Jones |
Brooke (swyddfa Heledd Fychan MS)
|
Enw: |
Enw: |
Jane Dodds AS |
|
|
|
|
|
Cofnodion a materion yn codi
Nododd y Cadeirydd ddiolch i’r Llysgenhadon Heddwch Ifanc am eu cyflwyniad yn y cyfarfod blaenorol ac am ddwyn gobaith newydd mewn byd cythryblus. Cadarnhaodd y Cadeirydd na chafwyd unrhyw ymatebion i'r llythyrau amrywiol at Weinidogion/Gadeiryddion Pwyllgorau ac ymrwymodd i fynd ar drywydd hyn.
Hawlio Heddwch / Deiseb Heddwch Menywod Cymru Rhoddodd MH grynodeb o hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru ac o ddathliad ei chanmlwyddiant. Roedd MH wedi ymweld â'r Smithsonian (gwarcheidwaid y gist a’r ddeiseb) fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150 oed. Mae'r gist a'r ddeiseb bellach wedi eu rhoi i Gymru o dan warcheidiaeth y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd dathliad canmlwyddiant yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 23 Mai i rannu'r stori'n fanylach drwy eiriau awduron llyfr newydd ar y pwnc. Mae Academi Heddwch wedi cyflwyno cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn gallu rhannu'r stori gyda chymunedau ledled Cymru, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i warchod, catalogio, digideiddio a chreu rhyngwyneb trawsgrifio chwiliadwy er mwyn gwarchod y ddeiseb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Amlinellodd AI rôl y grŵp Heddwch Nain/Mamgu yn dod â'r stori hon yn fyw. Roedd y ffaith eu bod eisoes wedi casglu dros 3000 o lofnodion drwy gyfarfodydd lleol yn golygu y dylai'r stori hybu cenhedlaeth newydd o weithredwyr heddwch. Esboniodd JE sut roedd grŵp o ymchwilwyr wedi gweithio i ddarganfod mwy am y stori a chyfrannu at y llyfr, a fydd yn cael ei rhag-lansio yn y digwyddiad ar 23 Mai. Ers cyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol, gwnaeth Elin Jones AS ddatganiad 90 eiliad ar y Ddeiseb Heddwch Menywod. Gallwch gael mynediad ato yma, Cyfarfod Llawn 24/05/2023 - Senedd Cymru (cynulliad.cymru), a gellir gwylio’r clip fideo yma: http://www.senedd.tv/Meeting/Clip/c340b399-348b-46d7-b4ec-0d55eb28191b?inPoint=01:55:38&outPoint=01:57:38
Diolchodd y Cadeirydd i chwiorydd Cymru am ddatblygu'r mudiad heddwch ac am ddod â'r stori hon i ysbrydoli cenhedlaeth newydd
CAM I’W GYMRYD: Ar adeg briodol yn ystod y canmlwyddiant, bydd MaG yn gosod Datganiad o Farn yn y Senedd i Aelodau eraill tanysgrifio iddo.
Rhannodd GR wybodaeth am Apêl Eglwysi 1925 https://www.wcia.org.uk/1925-churches-peace_appeal/ a soniodd hefyd am ddeiseb gweithwyr 1928 a deiseb yr eglwysi o blaid diarfogi yn 1932, sy'n rhoi’r cyfle i Gymru gael degawd o ddathliadau canmlwyddiant er mwyn adfywio ymdrechion dros heddwch.
Nodwyd bod 20 mlynedd i’r mis ers rhyfel Irac.
Heddwch ar Waith / Dewisiadau Amgen i Filitariaeth Rhoddodd AI ddiweddariad i’r grŵp ar y prosiect Heddwch ar Waith, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree ac a weithredir mewn partneriaeth â mudiadau heddwch Cymru. Cafodd y cais ei roi at ei gilydd gan Jill, Rhun, Awel a Brian, ochr yn ochr ag eraill yn y mudiad heddwch. Mae'r bartneriaeth yn gweithio'n agos gydag Academi Heddwch Cymru i rannu gwybodaeth ac osgoi dyblygu. Mae Heddwch ar Waith yn brosiect 16 mis a fydd yn: · Cynhyrchu map rhyngweithiol o ôl troed militariaeth yng Nghymru y gall pobl ychwanegu gwybodaeth newydd ato · Lledaenu gwybodaeth am filitariaeth yng Nghymru mewn ffordd ddealladwy sy'n dangos ffyrdd amgen o weithredu heb drais · Ffurfio rhwydwaith lobïo ar lefelau llywodraeth leol, Senedd a Llywodraeth y DU gyda 300 o wirfoddolwyr i gydweithio a lobïo dros newid · Cyfrannu at wneud Cymru’n Genedl Heddwch, gyda llywodraethau lleol yn penodi Hyrwyddwyr Heddwch ochr yn ochr â’r Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog sydd eisoes yn bodoli. Awgrymodd y Cadeirydd fod aelodau etholedig yn cefnogi'r rhaglen hon, yn defnyddio'r platfform, a bod y rhwydwaith lobïo yn cysylltu os oes unrhyw beth y gall y grŵp trawsbleidiol ei wneud. Nododd BJ mai un weithred fyddai i gynllun pensiwn y Senedd dadfuddsoddi mewn systemau arfau sydd wedi'u gwahardd gan Gytuniadau'r Cenhedloedd Unedig (ar hyn o bryd: y Confensiwn Arfau Biolegol, y Confensiwn Arfau Cemegol, y Cytuniad Gwahardd Ffrwydron Tir Gwrth-Bersonél, y Confensiwn ar Arfau Clwstwr a'r Cytuniad ar Wahardd Arfau Niwclear). Mae'r holl systemau arfau gwaharddedig hyn yn rhannu 2 nodwedd gyffredin: 1. Maent yn gweithredu mewn modd diwahaniaeth 2. Mae eu heffeithiau yn parhau am amser hir wedi’r gwrthdaro. Mae arfau o'r fath, yn ogystal â pheri niwed ymhell ar ôl i'r gwrthdaro ddod i ben, hefyd yn rhwystro cymunedau rhag cael mynediad at dir yn dilyn y gwrthdaro, sy'n effeithio ar brosiectau ffermio/seilwaith ac yn cadw cymunedau cyfan yn dlawd. Mae'r siawns o gymodi cadarnhaol yn cael ei lesteirio oherwydd ni all cymunedau symud ymlaen. Dywedodd SW ei bod wedi cyflwyno cwestiwn i'r Comisiwn ynghylch pwy â’r cyfrifoldeb dros y penderfyniadau hyn, ac mai Ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn sy’n gyfrifol. Cadarnhaodd RD fod MH yn un o'r Ymddiriedolwyr hyn ac y gallai rannu'r ymateb er gwybodaeth y grŵp. CAM I’W GYMRYD: Bydd yr Aelodau o'r Senedd yn y grŵp yn ysgrifennu at y rhai sy'n cynrychioli ASau ar yr Ymddiriedolaeth a sôn am y pryderon, fel yr amlinellwyd gan BJ uchod, gan gopïo’r Comisiwn i mewn a gofyn iddyn nhw godi'r materion hyn. Bydd BJ yn rhannu llythyr ddrafft gyda nodiadau Dywedodd GR mai eu polisi nhw yn Cytûn oedd peidio â buddsoddi mewn cwmni sydd â 10 y cant neu fwy o'u trosiant yn y fasnach arfau. Dylai rheolwyr buddsoddiadau feddu ar yr arbenigedd hwn, gan eu bod eisoes yn gyfarwydd â ddadfuddsoddi o ran tanwyddau ffosil, pornograffi, ac yn y blaen. CAM I’W GYMRYD: Bydd MaG, JE a HR yn cyfarfod er mwyn cynllunio'r ffordd orau o sicrhau newid o ran pensiynau. CAM I’W GYMRYD: Bydd HR yn trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf, yn gwahodd cynrychiolydd o Mayors for Peace i wneud cyflwyniad, ac yn gwahodd CND Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru i fynychu. CAM I’W GYMRYD: Bydd MaG yn gwahodd Jack Sargeant AS i'r cyfarfod nesaf i drafod y cynnydd a wnaed o ran y ddeiseb militariaeth mewn ysgolion.
Dyddiad a phwnc y cyfarfod nesaf 10.07.23: 11.30am i 12.30pm
|